Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Papur 1: Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd


1.0       Cyflwyniad a Materion Rhagarweiniol

1.1       Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r canlynol wrth ymateb i Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft. Disgrifir y rhain fel ‘y Bil’ ac ‘y Cynllun’ o hyn allan yn y papur hwn.

1.2       Rydym yn deall taw bwriad y Bil a’r Cynllun yw gosod dyletswyddau Cynulliad Cymru parthed gwasanaethau dwyieithog ar ‘sail statudol gadarn’ er mwyn ‘cynyddu hyder y cyhoedd yn ymrwymiad y Cynulliad i wasanaethau dwyieithog’ (10.9, Memorandwm Esboniadol).

1.3       Mae’r papur yn trin agweddau ar y Bil yn y lle cyntaf (2.0), ac yn ail agweddau ar y Cynllun (3.0).

1.4       Hoffem nodi rhai materion rhagarweiniol ynghylch atebolrwydd.

1.5       Nodir yn y Cynllun nad yw Comisiwn y Cynulliad yn ddarostyngedig i drefniadau cyfreithiol newydd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 oherwydd y ‘sefyllfa gyfansoddiadol arbennig yng Nghymru a’r egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol y dylai Gweinidogion Cymru fod yn atebol i’r Cynulliad yn hytrach na’r gwrthwyneb’ (paragraff 16, y Cynllun). Nodir yn y Memorandwm Esboniadol  bod ‘y darpariaethau hyn [y Bil] yn ei gwneud yn glir y bydd Comisiwn y Cynulliad yn atebol yn uniongyrchol i’r Cynulliad Cenedlaethol [...] yn hytrach nag i Gomisiynydd y Gymraeg a Gweinidogion Cymru fel yn achos cyrff cyhoeddus y gosodir safonau arnynt o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011’ (12.5, Memorandwm Esboniadol).

1.6       O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae Gweinidogion Cymru wedi’u enwi fel ‘person / categori’ o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Atodlen 6) ac felly mae Gweinidogion Cymru yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch safonau a’r gwasanaethau sydd dan eu gofal hwy. Yn yr un modd mae Cynllun Iaith Gymraeg (2011-2016) Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i Gomisiynydd y Gymraeg (Cynllun Iaith Gymraeg (2011-2016) Llywodraeth Cymru, tud. 1). Caiff Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru ei ddisodli gan safonau yn y pen draw. Yn yr un modd hefyd mae ‘Gweinidogion y Goron’, ‘Adrannau’r Llywodraeth’ a ‘Phersonau sy’n arfer, ar ran y Goron, swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan Ddeddf neu Fesur’ wedi’u enwi fel ‘person / categori’ o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

1.9       Gan nad yw Comisiwn y Cynulliad wedi’i enwi fel ‘person / categori’ o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, nid yw Comisiwn y Cynulliad yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg parthed ei Gynllun Iaith na safonau. Yn hytrach, mae Comisiwn y Cynulliad yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn hyder y cyhoedd yn ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i wasanaethau dwyieithog mae’n rhaid i drefniadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn gydnerth ac eglur. Er mwyn cryfhau’r trefniadau ar fater atebolrwydd Comisiwn y Cynulliad ynghylch y Cynllun, byddai’n dda o beth pe bai modd nodi’r union fecanwaith (e.e. is-bwyllgor / pwyllgor arbenigol) y bydd yn rhaid i Gomisiwn y Cynulliad ei ddefnyddio ar gyfer adrodd ar weithredu’r Cynllun. Hefyd, dylid nodi’n glir ym mha ffyrdd y gall y cyhoedd, rhan-ddeiliaid eraill ac eraill â diddordeb gyfrannu at y broses hon.

 

2.0       Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

2.1       Bwriad y Bil yw diwygio adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:

Yn lle is-adran (1), rhodder -

(1)   The official languages of the National Assembly are English and Welsh;

(1A) The official languages must, in the conduct of National Assembly proceedings, be treated on a basis of equality;

(1B) Either official language may be used by any person when participating in National Assembly proceedings;

(1C)  Paragraph 8 of Schedule 2 makes provision about how the Assembly Commission must enable effect to be given to subsections (1), (1A) and (1B).

2.2       Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi (11.2) i adran 1 newydd gynnwys ‘datganiad clir, syml mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol’ a bod hyn yn adlewyrchu’r ‘ddeddfwriaeth a gaiff ei defnyddio i lywodraethu deddfwreydd dwyieithog erall gan roi fel enghraifft ‘New Brunswick Official Languages Act 2002.’ Noder hefyd Adran 6 y ddeddf hon sef ‘English and French are the official languages of the Legislature’.  Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio (11.3) at newid arfaethedig (is-adran 1A) ynghylch adran 35 (1) Deddf 2006 fel bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ‘ar y sail eu bod yn gyfartal’ a bod hyn yn ‘adlewyrchu newid cymesur a wnaed gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.’ Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio (11.4) at newid arfaethedig (is-adran 1B) fydd yn nodi’r hawl i ddefnyddio’r ddwy iaith yn nhrafodion y Cynulliad yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth lywodraethu.

2.3       Mae sawl mater dylid ei ystyried yn y cyd-destun hwn, a hynny mewn perthynas â’r model rhyngwladol sef New Brunswick. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn egluro bod adran 1 o’r Bil yn ‘adlewyrchu’ Deddf Ieithoedd Swyddogol (New Brunswick) 2002. Os felly, mae’r adlewyrchiad yn un anghyflawn. Mae gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y Bil a Deddf Ieithoedd Swyddogol (New Brunswick) 2002 o safbwynt statws yr ieithoedd dan sylw, hawliau sariadwyr a ffyrdd o weithredu.

2.4       Er enghraifft, mae Deddf Ieithoedd Swyddogol (New Brunswick) 2002 yn nodi bod gan Ffrangeg a Saesneg, fel ieithoedd swyddogol fel mater o ffaith cyfansoddiadol, ‘equality of status and equal rights and privileges as to their use in all institutions of the Legislature and Government of New Brunswick.’ Â’r ddeddf yn ei blaen i nodi yn fanwl arwyddocâd ymarferol hyn oll, gan gynnwys defnydd o’r ddwy iaith yn y ddeddfwrfa, er enghraifft:

6          English and French are the official languages of the Legislature and everyone has the right to use either language in any debate and other proceeding of the Legislative Assembly or its committees;

7          Simultaneous interpretation of the debates and other proceedings of the Legislative Assembly shall be made available by the Legislature;

8          The records, journals and reports of the Legislative Assembly and its committees shall be printed and published in English and French and both language versions are equally authoritative.

2.5       Mae Deddf Ieithoedd Swyddogol (New Brunswick) 2002 llawer yn gliriach a chryfach na’r Bil a’r Cynllun. Mae hyn yn amlwg iawn wrth ystyried mater 12.8 yn y Memorandwm Esboniadol. Noder yma bod y Bil ‘yn ei gwneud yn glir nad yw’r Ddeddf o angenrheidrwydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun ddarparu ar gyfer cyfieithu ar y pryd a chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar bob achlysur’. Bwriad y Bil felly yw diwygio paragraff 8 o Atodlen 2 i’r Ddeddf (Egwyddorion y mae swyddogaethau i’w harfer yn unol â hwy) mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys gosod dyletswydd ar y Cynulliad i fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun. Mae’r newid arfaethedig hwn yn cynnwys yr esboniad canlynol:

6          Nothing in section 35(1) or in sub-paragraphs (3) or (5) of this paragraph is to be interpreted as requiring all words spoken or written in one of the official languages to be interpreted or translated into the other.

Mae hyn yn bur wahanol i ffyrdd deddwrfa New Brunswick o weithredu.

2.6       Yn ogystal, mae’r Memorandwm Esboniadol yn egluro bod hyn – sef ‘cyfyngu’r ddyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog ysgrifenedig i gyfarfodydd llawn (ond nid i bwyllgorau), eto yn gyson â’r arfer presennol’ (12.8, Memorandwm Esboniadol) a bod hyn yn ‘adlewyrchiad’ o Ddeddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2003, ac yn benodol y ffaith ‘that contributions (whether oral or in writing) in either of the official languages by persons may be published therein solely in that language.’ Yn ymarferol mae’r ddeddfwriaeth Wyddelig yn golygu bod modd i gyfraniad o’r math hwn gael ei gyhoeddi yn yr Wyddeleg neu’r Saesneg yn unig. Mae bwriad y Cynllun yn hyn o beth yn wahanol sef cyhoeddi cyfraniad o’r math hwn yn Saesneg yn unig, os taw Saesneg oedd iaith y cyfraniad, a chyhoeddi’r cyfraniad yn y Gymraeg a Saesneg os taw yn y Gymraeg oedd y cyfraniad yn y lle cyntaf. Mae gweithredu fel hyn yn bur wahanol i’r hyn sydd wedi’i fwriadu gan Ddeddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2003. Mae’r ddeddfwriaeth Wyddelig yn caniatáu am gyhoeddi yn yr Wyddeleg yn unig a hynny ar sail statws yr iaith honno fel iaith genedlaethol a swyddogol y wladwriaeth Wyddelig fel mater o ffaith cyfansoddiadol. Ai bwriad is-baragraff 6 yw caniatáu cyhoeddi rhai cyfraniadau yn y Gymraeg yn unig?

2.7       O ran ei ddewis o fodelau rhyngwladol, mae’r Memorandwm Esboniadol yn codi un rhan yn unig o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn New Brunswick. Ond yn hytrach na dilyn trywydd yr enghraifft honno, sy’n gosod darpariaethau ar wyneb y ddeddfwriaeth, fe droir at enghraifft wahanol o ddeddfwrfa arall, sef un Iwerddon, nad yw’n gwneud hynny. Nid esbonnir yn y Memorandwm pam y newidir o’r naill gyd-destun deddfwriaethol i’r llall mor ddisymwth, mewn modd a all ymddangos yn anghyson.

2.8       Yn y Memorandwm Esboniadol noder y canlynol:

Rhoddodd y Comisiwm ystyriaeth ofalus i’r cynnig y dylai dyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfodydd llawn gael ei roi ar wyneb y Bil yn hytrach na chael ei adael i’w bennu yn y Cynllun. Ystyriodd y Comisiwn y byddai’n rhaid i’r Cynllun ei hun gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad, ac felly, wedi iddo gael ei gymeradwyo, byddai’r Comisiwn o dan ddyletswydd i’w weithredu. Penderfynodd y Comisiwn felly na fyddai cynnwys, yn ychwanegol, ddyletswydd gyfreithiol anhyblyg ar wyneb y Bil ei hun yn angenrheidiol nac yn ddymunol’ (6.20, Memorandwm Esboniadol).

2.9       Mae nifer o faterion i’w hystyried yma. Statws yw’r cyntaf. Nid oes gan y Cynllun yr un statws cyfreithiol â’r Bil, mae’n amlwg. O edrych ar sefyllfaoedd sosio-ieithyddol eraill, fel sydd wedi bod yn rhan o’r broses hon gan gynnwys gwaith y ‘Panel Adolygu Annibynnol (2010)’, megis yr Alban, Catalonia, Gwlad y Basg, Gweriniaeth Iwerddon, New Brunswick, y Swisdir, mae’n glir bod y deddfwrfeydd yn yr awdurdodaethau sydd mwyaf tebyg i Gymru o safbwynt sosio-ieithyddol (hynny yw niferoedd o siaradwyr y gwahanol ieithoedd swyddogol, maint poblogaeth, datblygiad ieithyddol ac ati) wedi mabwysiadu dulliau o osod ar wyneb deddfwriaeth berthnasol datganiadau a dyletswyddau ynghylch statws iaith, hawliau ieithyddol, a defnydd o iaith o fewn ac ar draws gweithdrefnau deddfwriaethol a llywodraethiant. Mae un rheswm syml am hyn – mae’n rhoi sicrwydd ac eglurder i’r cyhoedd.

2.10     Mae’r ail fater yn y cyd-destun hwn yn perthyn i hyder y cyhoedd. Ymhlith canlyniadau’r broses ymgynghorol roedd ‘cefnogaeth gyffredinol dros osod dyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn ar wyneb y Bil gan bron iawn bawb a ymatebodd’ (6.13, Memorandwm Esboniadol) o ran yr ymatebion oedd o blaid. Nid yw’n glir a oedd unrhyw un o’r ymatebion yn erbyn wedi cynnig unrhyw sylw ar fater union gynnwys wyneb y Bil (6.15, Memorandwm Esboniadol).  Os taw bwriad y newidiadau arfaethedig yw ‘cynyddu hyder y cyhoedd yn ymrwymiad y Cynulliad i wasanaethau dwyieithog’ (10.9, Memorandwm Esboniadol), mae canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus yn awgrymu bod yma gyfle i gynyddu hyder defnyddwyr tebygol gwasanaethau Cymraeg y Cynulliad. Noder mai ymwneud â defnyddio’r Gymraeg y mae’r Bil a’r Cynllun gan taw o dan Faes 20, Atodlen 7, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn cwympo yn y cyd-destun hwn (2.9, 2.10 & 2.11, Memorandwm Esboniadol).

2.11     Mae’r trydydd mater yn ganlyniad statws unigryw ac arbennig y Cynulliad ym mywyd Cymru. Mae cyhoeddiadau academaidd sy’n trafod datganoli yn cynnig mai un o egwyddorion sylfaenol datblygu politi Cymreig yw mabwysiadu math o ddinasyddiaeth sifig Gymreig, sy’n niwtral o safbwynt nodweddion hunaniaethol. O ystyried rôl ddeddfwriaethol, ddemocrataidd a symbolaidd trafodion llawn y Cynulliad, mae’n anodd gweld sut y gellid cysoni cyfieithu trafodion o’r Gymraeg i’r Saesneg, ond nad o’r Saesneg i’r Gymraeg, â diffiniad cynhwysol a sifig o ddinasyddiaeth. Mae’n anodd gweld hefyd pam y dylid caniatáu goruchafiaeth unrhyw hunaniaeth ieithyddol yn y gofod sifig pwysicaf yng Nghymru, sef trafodion llawn y Cynulliad, gan y dylai fod yn niwtral.

2.12     At hyn, mae ieithwedd y Bil yn sôn am hawliau, ‘All persons have the right to use either official language when participating in Assembly Proceedings’, ieithwedd sy’n seiliedig ar ddeddfwriaeth New Brunsiwck, yn ôl y Memorandwm Esboniadol (11.4). Ond nid yw’r hawliau hyn yn cael eu hymestyn i’r dinesydd sy’n arfer ei hawl ddemocrataidd i ddarllen neu wrando ar y trafodion hyn. Nid yw’r broblem hon yn bodoli yn neddfwriaeth New Brunswick, gan fod hawliau’r sawl sy’n cyfrannu hefyd yn cael eu hymestyn i’r dinesydd sy’n darllen neu’n gwrando. Fodd bynnag, mae’r broblem yn bodoli yn y Bil ar hyn o bryd.

2.13 Ymddengys felly fod y ddadl o blaid cynnwys y ddyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfodydd llawn ar wyneb y Bil yn un gryf.

2.14     O ran materion eraill yn y Bil, mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi (11.5) y ‘gall y Cynulliad gydymffurfio â’r dyletswyddau o dan isadrannau (1A - sef ‘The official languages must, in the conduct of National Assembly proceedings, be treated on a basis of equality / Wrth gynnal trafodion y Cynulliad, rhaid trin yr ieithoedd swyddogol ar y sail eu bod yn gyfartal [Fersiwn Cymraeg o’r Nodiadau Esboniadol]’) ac (1B – sef ‘Either official language may be used by any person when participating in National Assembly proceedings / Mae gan bob person yr hawl i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall wrth gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad [Fersiwn Cymraeg o’r Nodiadau Esboniadol] ’)’ [...] ‘ar y amod bod Comisiwn y Cynulliad yn darparu staff a chyfleusterau eraill i alluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud ei waith.’ Mae geiriad yr eglurhad hwn yn awgrymu bod ymrwymiad y Cynulliad i’r dyletswyddau stadudol arfaethedig o dan y Bil yn amodol ac os nad yw ‘staff a chyfleusterau eraill’ wedi’u darparu ni fydd y Cynulliad yn abl o weithredu 1A ac 1B. Fel arfer, nid yw gweithredu ‘hawl’ [1B] statudol yn amodol ar faterion beunyddiol rhedeg sefydliad megis staffio a chyfleusterau. Hefyd, byddai ceisio gosod amod felly yn adlais o’r enghreifftiau o’r arfer gwannach yng nghyd-destun ‘Cynlluniau Iaith’ yng Nghymru.

2.15     O ystyried mor allweddol yw darparu staff a chyfleusterau eraill, dylai’r Atodlen nodi bod yn rhaid i’r Cynllun gynnwys strategaeth sgiliau dwyieithog yn hytrach nag ymrwymiad i ddarparu strategaeth sgiliau iaith yn y dyfodol (paragraff 100, y Cynllun). Wrth ei ymgorffori i’r Cynllun bydd y strategaeth sgiliau iaith hefyd yn agored i ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Fel rhan o’r Cynllun bydd y strategaeth sgiliau iaith yn  agored i’w graffu, monitro a chymeradwyo yn yr un modd â gweddill y Cynllun. Os yw gweithredu 1A ac 1B yn ‘amodol’ (11.5, Memorandwm Esboniadol) ar ddarparu staff yna mae strategaeth sgiliau iaith yn fater hanfodol ac rhaid ei drin fel mater o flaenoriaeth o’r radd flaenaf yn hytrach na fel atodiad o rywfath i’r Cynllun.

 

3.0       Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft

3.1       Mae gwendidau yn y Cynllun o safbwynt gweithredu’r Cynllun ac o safbwynt monitro ac adrodd.

3.2       Nodir yn yr adran ‘Awdurdod dros gydgysylltu’r Cynllun hwn a chyfrifoldeb amdano’ (paragraffau 20-23, y Cynllun) y bydd gan Brifweithredwr a Chlerc y Cynulliad gyfrifoldeb am ‘gydgysylltu, monitro a [...] cynghori ar adolygu cynnwys y Cynllun (paragraff 21, y Cynllun).’ Nodir hefyd fod ‘gan bob rheolwr gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo iddo dros weithredu’r agweddau hynny ar y Cynllun sy’n berthnasol i’w waith’ (paragraff 23, y Cynllun) ac hefyd y ‘bydd pob maes gwasanaeth o fewn y Cynulliad yn enwebu Cydgysylltydd [...] a fydd yn gyfrifol am dddarparu cyngor ar weithredu’r Cynllun yn eu meysydd hwy; adolygu’r cynnydd yn erbyn gofynion y Cynllun bob chwarter blwyddyn drwy Fforwm Cydgysylltwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol; hysbysu’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi o unrhyw newidiadau i’r ymrwymiadau darparu yn barhaus’ (paragraff 24, y Cynllun). Fel sydd yn arferol mewn Cynlluniau Iaith Gymraeg sydd yn arddel arfer da, dylai Comisiwm y Cynulliad ddarparu Cynllun Gweithredu manwl ar yr un pryd ag y cyflwynir y Cynllun Ieithoedd Swyddogol gan nodi yn union cyfrifoldebau’r sawl sy’n gyfrifol am ei weithredu, y targedau i’w cyflawni a’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith. Mae Cynllun Gweithredu Corfforaethol Cynllun Iaith Gymraeg (2011-2016) Llywodraeth Cymru yn enghraifft ragorol. Wrth wneud hyn y bydd yn fanwl glir sut y bwriedir gweithredu’r Cynllun.

3.3       Mae adran yn y Cynllun sydd yn ymdrin â ‘Monitro ac Adrodd’ (paragraffau 25-27, y Cynllun). Mae’r adran hon yn arwynebol iawn. Nid oes unrhyw fanylion ar fonitro ar wahân i amlinellu’r ymrwymiad moel i fonitro cydymffurfiad â’r Cynllun. Mae modd arddel yr arfer gorau ym maes Cynlluniau Iaith Gymraeg yn y cyd-destun hwn hefyd. Er enghraifft, mae’r Cynlluniau gorau yn gwneud defnydd o ‘Ddangosyddion Perfformiad Allweddol’, gweler Atodiad 2, Cynllun Iaith Gymraeg (2011-2016) Llywodraeth Cymru.

3.4       Mae peth amwysedd yn perthyn i eiriad rhai cymalau o’r Cynllun. Er enghraifft:

(paragraff 48) ‘ar fyr rybudd’ – beth yn fanwl yw’r diffiniad o ‘fyr rybudd?’

(paragraff 49) ‘ar fyr rybudd’ – beth yn fanwl yw’r diffinaid o ‘fyr rybudd?’

(paragraff 50) ‘cyhyd â bod hynny’n rhesymol ymarferol’ – beth yn fanwl yw’r diffiniad o ‘rhesymol ymarferol?’

(paragraff 51) ‘lle nad yw’n bosibl cael y dogfennau yn y ddwy iaith’ – os yw’r sefydliadau â chynlluniau iaith neu yn dod o dan drefn safonau mae’n anodd gweld unrhyw reswn pam na fyddai dogfennau, ar gais y Cynulliad, ar gael yn y ddwy iaith. Mewn amgylchiadau pan nad yw’r sefydliad arall, sydd â Chynllun Iaith neu sydd o dan drefn safonau, wedi darparu dogfen yn y Gymraeg pam na ellid gofyn am eglurhad a chyhoeddi hwnnw hefyd? Oni ellid tynnu sylw Comisiynydd y Gymraeg at y ffaith bod sefydliad, sydd â Chynllun Iaith neu sydd o dan drefn safonau, wedi methu â darparu dogfennaeth yn y Gymraeg yn unol â’r disgwyliadau statudol?

(paragraff 70) ‘ein huchelgais yw galluogi’ – dylid nodi’n hytrach ‘bydd Comisiwn y Cynulliad yn galluogi...’? Mae’n llawer mwy pendant.

(paragraff 71) ‘byddwn yn ceisio cyflawni’ – pam na ellid dweud ‘byddwn yn cyflawni?’

(paragraff 82) ‘lle bo hynny’n rhesymol ymarferol’ - beth yn fanwl yw’r diffiniad o ‘rhesymol ymarferol?’

(paragraff 82) ‘ar fyr rybudd’ – beth yn fanwl yw’r diffiniad o ‘fyr rybudd?’

(paragraff 85) ‘oes hir iawn’ – beth yn fanwl yw’r diffiniad o ‘oes hir iawn?’ yng nghyd-destun y pararagraff hwn?

(paragraff 85) ‘ar frys’ – beth yn fanwl yw’r diffiniad o ‘ar frys’?

Dylai fod modd osgoi amwysedd o’r math.

3.5       Goblygiadau paragraffau 59 a 61 o’r Cynllun yw rhoi blaenoriaeth i’r Saesneg (gweler rhan 2.0, uchod). Mae’r drefn arfaethedig ynglŷn â chyfieithu cyfraniadau a dderbynnir yn y Gymraeg yn unig, a hynny i’r Saesneg, yn wannach na model rhyngwladol y Cynllun yn y mater hwn, sef Deddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2002.

3.6       Nodir yn y Cynllun ‘ni fydd yn bosibl sicrhau bod siaradwyr Cymraeg o’n gwasanaeth cyswllt cyntaf ar gael, ond rydym wedi ymrwymo i wella sgiliau iaith Cymraeg y staff’ (paragraff 94, y Cynllun). Yn ôl yr arfer gorau ym maes Cynlluniau Iaith Gymraeg, dylai Comisiwn y Cynulliad nodi mewn Cynllun Gweithredu y camau a’r amserlen ar gyfer mynd i’r afael â’r gwaith hwn. Hefyd, mae’r arfer gorau yn y maes hwn yn cael ei lywio gan ddogfennau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ‘Canllawiau ar Hyrwyddo a Hwyluso Gweithleoedd Dwyieithog’ a ‘Chanllawiau ar Recriwtio a’r Iaith Gymraeg.’

3.7       Nodir yn y Cynllun yn yr adran ar ‘Reoli ac Annog Sgiliau Dwyieithog Staff y Cynulliad’ y ‘bydd angen i ni ddatblygu’r maes hwn ymhellach yn y dyfodol’ (paragraff 99, y Cynllun). Eto, byddai darparu ‘Cynllun Gweithredu’ mewn perthynas â’r angen hwn yn gweddu â’r arfer gorau yn y maes. Yn fwy penodol, er mwyn gweddu â’r arfer gorau yn y maes, dylid nodi yn y Cynllun y bydd yr ‘hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth ieithyddol’ (paragraff 91, y Cynllun) a’r ‘strategaeth sgiliau dwyieithog’ (paragraff 100, y Cynllun) a’r adran ar ‘Recriwtio’ (paragraffau 101-106, y Cynllun) yn cael eu llywio gan ddogfennau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ‘Canllawiau ar Hyrwyddo a Hwyluso Gweithleoedd Dwyieithog’, ‘Canllawiau ar Recriwtio a’r Iaith Gymraeg’, ‘Canllawiau ar Drefnu Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn y Gweithle’ a ‘Phecyn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith’ (gweler, er enghraifft, Adran 7, Cynllun Iaith Gymraeg (2011-2016) Llywodraeth Cymru).

3.8       Ar fater ‘Gweithio mewn Partneriaeth’, er mwyn gweddu â’r arfer gorau yn y maes dylid nodi y bydd y Cynllun yn dilyn canllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar ‘Bartneriaethau a’r Iaith Gymraeg (gweler, er enghraifft, 7.7, Cynllun Iaith Gymraeg (2011-2016) Llywodraeth Cymru).

3.9       Nodir yn y Cynllun y bydd Biliau’r Cynulliad sy’n cael eu hystyried gan y Cynulliad ‘ar gael yn y ddwy iaith a gall Aelodau’r Cynulliad gynnal eu gwaith craffu yn y naill iaith neu’r llall’ (paragraff 56, y Cynllun). Nodir hefyd fod eithriadau yn bosibl, a hynny o dan Reol Sefydlog 26.5. Mae Rheol Sefydlog 26.5 yn nodi’r canlynol:

Rhaid i Fil gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ac eithrio yn yr

achosion canlynol:

(i) os yw’r Aelod sy’n gyfrifol amdano yn datgan mewn ysgrifen,

mewn perthynas â Bil llywodraeth, na fyddai, am resymau

penodedig, yn briodol o dan yr amgylchiadau neu yn rhesymol

ymarferol i’r Bil gael ei gyflwyno yn y ddwy iaith; neu

(ii) os nad yw gwneud hynny yn cyd-fynd â phenderfyniadau a

gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26.3.

(Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tachwedd 2011).

Er mwyn eglurder, byddai’n ddefnyddiol pe bai modd enghreifftio yn y Cynllun y math o amgylchiadau fyddai’n golygu nad yw’n briodol nag yn ymarferol rhesymol i gyflwyno Bil yn y ddwy iaith.

3.10     Dylid nodi rhai gwallau ffeithiol yn y ddogfennaeth, sef:

(paragraff 16, y Cynllun) ‘Mesur y Gymraeg (Cymru) 2012,’

(2.2, Memorandwm Esboniadol) ‘Deddf yr Iaith Gymraeg 2003,’

(12.8, Memorandwm Esboniadol) ‘Deddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2002.’

(paragraff 90, y Cynllun) ‘Anogir sefydliadau nad oes ganddynt gynlluniau iaith i weithredu’n unol ag egwyddorion eu cynlluniau.’ Dywed yn y fersiwn Saesneg o’r Cynllun: ‘Organisations without language schemes will be encouraged to operate in accordance with our outlined principles.’

 

4.0       Casgliadau

4.1       Mae’r Bil a’r Cynllun yn arddel dehongliadau gwan o’r modelau rhyngwladol a ddefnyddid o ddeddfwriaeth gymharol, sef New Brunswick (Canada) a Gweriniaeth Iwerddon yn bennaf. Mae fel petai’r esiamplau rhyngwladol wedi’u nithio gan gasglu’r us yn hytrach na’r grawn.

4.2       Mae dadl gref o blaid cynnwys y ddyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfodydd llawn ar wyneb y Bil.

4.3       Nid yw’r Cynllun, fel y mae, yn adlewyrchu yr arfer gorau ynghylch Cynlluniau Iaith Gymraeg, gan gynnwys Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

 

5.0       Cyfeiriadau

Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

Cynllun Iaith Gymraeg (2011-2016) Llywodraeth Cymru.

Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Deddf Ieithoedd Swyddogol (Iwerddon) 2003.

Deddf Ieithoedd Swyddogol (New Brunswick) 2002.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Memorandwm Esboniadol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) (Ionawr, 2012).

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Panel Adolygu Annibynnol (2010) ‘Adolygiad o Wasanaethau Dwyieithog Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Tachwedd, 2011).